Cylch Cinio Glannau Llwchwr

Cylch Cinio Glannau Llwchwr Wedi ei sefydlu ers 1973

Hyd at 2006 yr oedd aelodaeth y Cylch yn agored i ddynion yn unig ond yn Cyfarfod Blynyddol 2006 penderfynwyd agor yr aelodaeth i bawb. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1973 a dros y blynyddoedd mae’r Cylch wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r gymuned trwy hybu a helpu mudiadau eraill, yn enwedig wrth godi arian. Cyfranwyd symiau sylweddol tuag at Yr Urdd, Eisteddfodau lleol a chenedlaethol ac i nifer o weithgareddau yn ysgolion yr ardal. Yn ogystal, mae’r Cylch wedi cydweithio  gyda chymdeithasau eraill i godi arian i gefnogi nifer o elusennau lleol.

 Yn y dyddiau cynnar roedd rhestr aros am nad oedd ystafell ddigonol i gael i ddal mwy na 70 aelod! Mae’r Cylch yn dal i fod mor fyw ag erioed ac y mae rhyw 30 o aelodau yn mwynhau’r amrywiaeth o siaradwyr ac yn cyfrannu i fywyd Cymreig yr ardal.


Amdano Ni