Cylch Cinio Glannau Llwchwr

Cylch Cinio Glannau Llwchwr Wedi ei sefydlu ers 1973

1. Cymraeg fydd yr iaith a ddefnyddir yn holl weithgareddau y Cylch.

2. Bydd yr aelodaeth yn agored i bawb.

3. Bydd rhyddid i unrhyw aelod ddod â gwestai i’r cyfarfodydd os bydd yna le (heblaw am y cyfarfod blynyddol).

4. Bydd Cadeirydd y Cylch yn dal ei swydd am flwyddyn ar y tro ac olynir ef i’w swydd gan yr Is-Gadeirydd yn flynyddol. Etholir Ysgrifennydd a Thrysorydd bob dwy flynedd. Gellir enwebu aelod am swydd yn ei absenoldeb cyn belled a’i fod wedi arwyddo ar bapur ei fod yn cytuno.

5. Rhennir yr aelodaeth yn gylchoedd o bump i ddeg aelod a dewisir un aelod o’r Cylch i fod yn gyfrifol am ohebu gyda’r Ysgrifennydd. OS NA FYDD aelod yn bwriadu dod i ginio rhaid iddo adael i’w Ohebydd wybod mewn digon o amser fel y gall y Gohebydd roi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd ddim hwyrach na’r Nos Sul cyn pob cinio. Os na wneir hynny cymerir yn ganiataol y bydd yr aelod yn bresennol ac felly yn rhwymedig i dalu pris y Cinio.

6. Bydd hawl gan yr aelodaeth i newid y rheolau yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir ym mis diwethaf y tymor.


Cyfansoddiad Y Cylch